Maniffesto Dogs Trust ar gyfer Etholiadau 2026 yng Nghymru

Rydyn ni wedi helpu miloedd o gŵn ledled Cymru, o agor ein canolfan ailgartrefu gyntaf yng Nghymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1966, i agor ein canolfan yng Nghaerdydd yn 2021. Ac rydyn ni yr un mor ymroddedig i gŵn Cymru heddiw ag yr oedden ni yn y 60au.
Gydag etholiadau Cymru ar y gorwel ym mis Mai 2026, mae’n foment hollbwysig i les cŵn. Rydyn ni wedi creu ein maniffesto i ddangos i ymgeiswyr beth yn union rydyn ni'n sefyll drosto, a beth rydyn ni eisiau ei weld os byddan nhw'n cael eu hethol. Mae'n gynllun clir ar gyfer sut y gallwn gyflawni’r safon aur ar gyfer lles cŵn yng Nghymru.
Gan weithio gydag Aelodau o'r Senedd, rydyn ni eisoes wedi cyflawni llwyddiannau sylweddol, fel mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i ymrwymo i roi terfyn ar rasio milgwn.
Ond mae mwy i'w wneud.
Mae heriau'r blynyddoedd diwethaf wedi ail-lunio perchnogaeth cŵn ledled Cymru, gan adael mwy o gŵn mewn angen a mwy o berchnogion yn cael trafferth ymdopi. Rydyn ni'n galw ar y genhedlaeth nesaf o arweinwyr i ddarparu mesurau diogelu cryfach, polisïau mwy clyfar, a newid parhaol i gŵn ledled Cymru.
Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol
Rheoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid
Ar hyn o bryd, gall unrhyw un yng Nghymru sefydlu ei hun fel rhywun sy’n achub anifeiliaid ac yn ailgartrefu cŵn; rhaid i hyn newid. Rydyn ni eisiau rheolau clir, archwiliadau rheolaidd, a chronfa ddata ganolog i ddiogelu cŵn a pherchnogion ledled Cymru.
Gwell deddfwriaeth bridio cŵn
Rhaid i ni gau bylchau presennol a mynnu bod unrhyw un sy'n bridio neu'n gwerthu cŵn bach yn cofrestru pan fydd y cŵn bach cyntaf yn cael eu geni, gyda safonau lles cryf ar gyfer pob ci sy'n cael ei fridio.
Gallu olrhain pob ci
Un system chwilio am ficrosglodion ledled y DU, gyda manylion y bridiwr yn cael eu cofnodi wrth gofrestru cŵn bach.
Hysbysebu anifeiliaid anwes mewn ffordd gyfrifol
Rheolau llymach ar gyfer hysbysebion ar-lein er mwyn i brynwyr allu ymddiried yn y bobl maen nhw’n prynu ganddyn nhw.
Gwell mynediad at dai sy'n addas i anifeiliaid anwes
Rheolau tecach ynghylch pam y gall landlordiaid wrthod rhentwyr, ymatebion cyflymach gan landlordiaid i geisiadau am anifeiliaid anwes, a newidiadau i'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn dod o hyd i lety addas lle bo angen.
Polisïau perchnogaeth cŵn sy'n fwy cyfrifol a doeth
Cyflwyno deddfwriaeth effeithiol sy'n niwtral o ran brîd, gwella'r broses o orfodi cyfreithiau rheoli cŵn, hyrwyddo ymyrraeth gynnar, a darparu addysg atal brathiad gan gŵn mewn ysgolion.
Rhoi diwedd ar rasio milgwn
Rhoi diwedd ar yr arfer peryglus hwn a rhoi'r cyfle i bob milgi gael bywyd hapus a diogel.
Hyrwyddo cyfreithiau cŵn
Mae angen hyrwyddwyr ar gŵn ym mhob cwr o Gymru. Drwy gofrestru fel Hyrwyddwr Cyfreithiau Cŵn, byddwch yn ymuno â'n mudiad cynyddol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob ci yn cael y bywyd hapus, diogel a chariadus mae'n ei haeddu. Gyda'n gilydd, gallwn wireddu'r weledigaeth hon.
Eisiau rhagor o wybodaeth? Dysgwch fwy am ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer lles cŵn yng Nghymru drwy ddarllen ein maniffesto llawn.



